Rhosymadoc, Rhiwabon, Wrecsam
Croeso i Cantab Electrical.
Busnes teuluol a dibynadwy yn gwneud gwaith safonol am bris rhesymol. Rydym yn gontractwyr wedi ein cymeradwyo gan NICEIC ac wedi ein cofrestru gyda’r Cynllun Gosodwyr Domestig. Rydym wedi ein cydnabod dan Ran P.
Looking for English? Visit the English site.

Ein gwasanaethau
Gosod, cynnal a thrwsio ym mhob maes.
Mae Cantab Electrical Ltd yn gwneud gwaith gosod, cynnal a chadw a thrwsio ar bob gosodiad trydanol yn y meysydd domestig, masnachol, diwydiannol ac amaethyddol, o’r gwaith lleiaf i’r mwyaf.
Rydym hefyd yn dylunio a gosod goleuadau argyfwng a chynlluniau larwm tân ym mhob math o adeilad, ac yn gosod cylchedau ffôn a theledu ychwanegol. Mae ein cwmni yn arbenigo mewn archwilio a phrofi: archwiliadau trydanol cyfnodol, profi offer cludadwy, a thrwyddedau gosodiadau trydanol adloniant a theatr.
Yn y Cartref
Contractwyr trydanol o ansawdd y gallwch ddibynnu arnynt.
Masnachol
Gwasanaethau trydanol masnachol proffesiynol.
Diwydiannol
Gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon gyda chyfoeth o brofiad diwydiannol.
Lleoliadau Arbennig
Mae llawer mwy i drydanwr na sgiliau gwifrau da.
Archwilio a Phrofi
Profi PAT, goleuadau argyfwng ac archwiliadau cyfnodol.
Amdanom ni
Yn darparu gwasanaethau trydanol ers 2005.
Wedi ein lleoli yn gyfleus yn Wrecsam gyda mynediad hawdd i bob prif ffordd, rydym yn darparu gwasanaethau gosod a chynnal a chadw yn Wrecsam, Caer, Gogledd Cymru, Sir Gaer, Gogledd Swydd Amwythig a Gogledd Orllewin Lloegr.
Rydym yn ymdrin â phob agwedd ar osodiadau trydanol, o arolygu hyd at ddylunio, gosod, profi, cynnal a chadw ac ardystio. Mae ein trydanwyr yn cynnig help a chyngor am ddim, a byddwn yn rhoi dyfynbris manwl sy’n hawdd ei ddeall.
- Ailweirio trydanol
- Archwiliad a phrofi trydanol
- Profi PAT
- Goleuadau argyfwng: dylunio, gosod a phrofi
- Larwm tân: dylunio, gosod a phrofi
- Synwyryddion mwg Gradd D
- Dylunio a gosod goleuadau
- Goleuadau diogelwch
- Gwiriadau diogelwch landlord
- Gwasanaeth cynnal a chadw
- Diagnosteg problemau
Cysylltu
Ffoniwch am amcangyfrif am ddim.
01978 820 026 info@cantabelectrical.co.uk Cantab, Rhosymadoc, Rhiwabon,Wrecsam LL14 6LP

